Offerynnau Statudol gydag Adroddiadau Clir
12 Mehefin 2017
SL(5)111 – Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2017
Gweithdrefn: Cadarnhaol
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014(“Rheoliadau 2014”) i adlewyrchu newidiadau yn y Rheolau Mewnfudo, sef y rheolau a ddiffinnir yn y Rheoliadau hynny fel y rheolau a osodwyd fel y soniwyd yn adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971
Deddf wreiddiol: Deddf Tai (Cymru) 2014
Dyddiad y’i gwnaed: Heb ei nodi
Dyddiad y’i gosodwyd: Heb ei nodi
Dyddiad y daw i rym: 22 Mehefin 2017